Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 (Hybrid)
Dyddiad: Dydd Llun, 11 Medi 2023
Amser:
10.00 -
15.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13639
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS |
Tystion: |
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Alistair Davey, Llywodraeth Cymru Alex Slade, Llywodraeth Cymru Sue Tranka, Llywodraeth Cymru Richard Desir, Swyddog Nyrsio Profiad y Claf, Llywodraeth Cymru Lloyd Hopkin, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant
2 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: Sesiwn dystiolaeth 8
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan:
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Richard Desir, Swyddog Nyrsio - Profiad y Claf
Alex Slade, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol ac Iechyd Meddwl
Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio
Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyfarwyddiaeth Galluogi, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw ar gyfer eitemau 4 a 7
Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.
4 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: y grŵp cynghori
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth breifat gan y grŵp cynghori ar atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd.
5 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 9
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan:
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Sian Jones, Pennaeth Cefnogi Cyflawniad a Diogelu
Lloyd Hopkin, Pennaeth Diwygio'r Cwricwlwm
6 Papurau i'w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
6.1 Gohebiaeth â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder ieuenctid
6.2 Gohebiaeth â’r Arglwydd Bellamy, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder ieuenctid
6.3 Gohebiaeth â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip ynghylch therapyddion lleferydd ac iaith ym maes cyfiawnder ieuenctid
6.4 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch Amserlen y Gyllideb Ddrafft 2024-25
6.5 Gohebiaeth â Chwaraeon Cymru ynghylch y dull iechyd cyhoeddus o atal trais ar sail rhywedd
6.6 Gohebiaeth â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ynghylch y dull iechyd cyhoeddus o atal trais ar sail rhywedd
6.7 Gohebiaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch y dull iechyd cyhoeddus o atal trais ar sail rhywedd
6.8 Gohebiaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch y dull iechyd cyhoeddus o atal trais ar sail rhywedd
6.9 Gohebiaeth â Phlismona yng Nghymru ynghylch y dull iechyd cyhoeddus o atal trais ar sail rhywedd
6.10Gohebiaeth â Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru ynghylch y dull iechyd cyhoeddus o atal trais ar sail rhywedd
6.11Gohebiaeth â Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG ynghylch y dull iechyd cyhoeddus o atal trais ar sail rhywedd
6.12Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch dulliau Iechyd y Cyhoedd o atal trais ar sail rhywedd
6.13Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Dyled ac effaith costau byw cynyddol
6.14Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Weinidog y Gymraeg a Addysg ynghylch canllawiau statudol ar addysg ddewisol yn y cartref
6.15Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch sesiwn graffu gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip
6.16Gohebiaeth gan y Prif Weinidog ynghylch Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Jersey
6.17Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i Weinidogion Llywodraeth Cymru ynghylch y gwasanaeth rhagnodi electronig ym maes gofal sylfaenol
6.18Gohebiaeth gan Dr Greg Davies ynglŷn â phleidleisio i garcharorion yng Nghymru
6.19Gohebiaeth â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip ynghylch craffu ariannol yn ystod y flwyddyn 2023-24
6.20Gohebiaeth gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch y Rhaglen Cartrefi Clyd
6.21Gohebiaeth â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip ynghylch y Strategaeth Ddrafft ar gyfer Tlodi Plant
6.22Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion
6.23Gohebiaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch Cyflwyniad UKIM i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau
6.24Gohebiaeth â Llywodraeth Cymru ynghylch cyfiawnder data
6.25Gohebiaeth â Phwyllgor Meddygon Teulu, BMA Cymru, ynghylch cyfiawnder data
6.26Gohebiaeth gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol ynghylch cyfiawnder data
7 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: trafod y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.